Meithrin a Derbyn
Tymor yr Haf 2022
Edrychwn ymlaen at Dymor yr Haf gyda Dosbarth Meithrin a
Derbyn.
Derbyn yn unig – Byddwn yn parhau gyda llythrennau, geiriau a
llyfrau Tric a Chlic. Cofiwch gofnodi unrhyw sylwadau ac arwyddo
yn y Cofnod Llyfrau Llyfrgell. Dylai’r plant ddod a’u bagiau
darllen i’r ysgol bob diwrnod os gwelwch yn dda.
Bydd angen gwisg addysg gorfforol briodol ar y plant Meithrin a
Derbyn ar gyfer y gwersi a gall eich plentyn gadw’r wisg yn yr
ysgol a'u dychwelyd adre i olchi ar ddiwedd hanner tymor.
Gofynnir ichi sicrhau fod pob dilledyn gydag enw'r plentyn arno
os gwelwch yn dda. Byddant yn dysgu newid a gwisgo yn
annibynnol ac yn dysgu rheolau er mwyn diogelwch yn y gwersi.
Yn ogystal a’r gwersi byddant yn cael cyfleoedd i ddatblygu
sgiliau drwy ddefnyddio offer mawr fel beiciau a sgwteri ac offer
bach megis pensiliau a siswrn.
Ein thema Tymor yma yw ‘Y Fferm ar Ardal Leol’. Byddwn yn
dysgu am ffermio, yr anifeiliaid a sut mae ffermio wedi newid
dros y blynyddoedd. Yn ogystal â hyn, byddwn yn dysgu am ein
hardal leol, ein cartrefi a pha mor lwcus ydym i fyw mewn ardal
mor hardd.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Byddwn yn darllen llawer o storiau dosbarth yn ystod y tymor,
gyda phrif ffocws ar y llyfr ‘Alun yr Arth ar y Fferm’. Byddwn yn
parhau i ddefnyddio’r cynllun Tric a Chlic i ddysgu llythrennau a
geiriau gan ganolbwyntio ar ffurfio cywir a datblygu sgiliau
darllen, sillafu ac ysgrifennu. Bydd y plant yn datblygu iaith
drwy chwarae rôl yn y dosbarth, ac yn yr ardal tu allan. Yn
ogystal â hyn, byddwn yn adolygu llyfr, gwneud holidaur,
ysgrifennu stori, a defnyddio TGCH i gyflwyno gwybodaeth.
Mathemateg a Rhifedd.
Byddwn yn parhau i ddatblygu sgiliau mathemategol trwy
weithgareddau chwarae yn y dosbarth a thu allan ac yn dysgu
caneuon a rhigymau sydd yn ymwneud a rhif. Byddwn yn
canolbwyntio ar adio a thynnu, symudiad, arwynebedd a chyfaint,
ongl a safle a phatrymau.
Iechyd a Lles.
Byddwn yn parhau i annog y plant i fod yn annibynnol a dysgu
arferion gofal personol. Byddwn yn gwario llawer o amser yn yr
awyr agored ac yn ardd yr ysgol, felly yn canolbwyntio ar
bwysigrwydd awyr iach. Mi fyddwn hefyd yn dysgu sut i gadw’n
ddiogel ar y fferm, o gwmpas peiriannau mawr a sut i groesi’r
ffordd yn ofalus.
Y Dyniaethau
Ein thema yw 'Y Fferm ar Ardal Leol' felly byddwn yn dysgu am
swydd ffermwyr a pham bod ffermwyr yn bwysig i Gymru a’r
ardal leol. Yn ogystal â hyn byddwn yn edrych ar sut mae ffermio
wedi newid dros y blynyddoedd. Mi fyddwn hefyd yn dysgu am
gartrefi’r anifeiliaid ac yn mynd am dro o gwmpas yr ardal leol i
weld pa anifeiliaid sydd yno.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Yn Gwyddoniaeth, byddwn yn gwneud arbrawf plannu blodau fel
dosbarth a hefyd yn edrych ar gylchred bywyd yr iâr. Mi fyddwn
yn dysgu sut i fewngofnodi ar HWB yn annibynnol ac yn
defnyddio HWB i greu lluniau, paentio ac i wneud graff.
Celfyddydau Mynegiannol
Bydd y plant yn cael y cyfle i baentio gyda gwellt a defnyddio
peiriannau fferm i greu marciau yn yr ardal tu allan. Mi fyddwn
yn edrych ar waith Van Gogh ac yn arbrofi gyda thechnegau
gwahanol. Byddwn hefyd yn gwneud gwaith crefft yn ymwneud ar
Eisteddfod ac yn addurno’r ysgol.
Edrychwn ymlaen at gael tymor prysur a hwyliog gyda’r plant a
diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Ysgol Carreg Emlyn © 2020 Website designed and maintained by H G Web Designs