Blwyddyn 5 a 6 Blwyddyn Newydd Dda i chi. Ein thema'r tymor yma yw ‘Teithio’. Mae llais y dysgwyr a’u syniadau yn parhau i fod yn wraidd y dysgu. Mae croeso i chi drafod thema’r dosbarth gyda’ch plentyn gan ddod ag unrhyw lyfrau, lluniau, arteffactau perthnasol i’r ysgol. Dyma amlinelliad o beth fyddwn yn eu hastudio ym mhob pwnc: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Byddwn yn parhau i gyflawni ein gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg am bythefnos ac yna drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd ein gwaith yn cyd-fynd law yn llaw gyda thema’r tymor yn ogystal â llyfr darllen y dosbarth sef ‘The Explorer’, gan Katherine Rundell. Byddwn yn trafod, darllen ac yn dysgu sut i ysgrifennu: Disgrifiad, erthygl papur newydd, dyddiadur, cerdyn post a sgript. Read Write Inc: Bydd y plant yn cael sesiynau Read Write Inc am ugain munud yn ddyddiol i ddysgu sgiliau sillafu Saesneg. Byddaf yn parhau i wrando ar y plant yn darllen, felly mae’n bwysig eu bod yn dod a’u bagiau darllen i’r ysgol bob dydd. Mathemateg a Rhifedd: Y prif agweddau o rifedd y byddwn yn eu hastudio’r tymor hwn fydd: Ffracsiynau, Swyddogaethau a graffiau, dilyniant rhif, amser, hyd, data/dosbarthu, hafaliadau ac anhafaliadau, siapiau ac adeiledd. Yn ogystal â hyn byddwn yn ymarfer mathemateg pen, cwblhau matiau Mathemateg ac yn datblygu ein gallu i ddatrys problemau. Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Byddwn yn edrych ar rymoedd gwahanol megis disgyrchiant a gwrthiant aer a phwysigrwydd y rhain yng nghyd destun teithio. Byddwn yn cynnal arbrawf wrth adeiladu awyren bapur effeithiol. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu ein sgiliau codio wrth ddefnyddio rhaglenni codio Hwb a Scratch. Y Dyniaethau: Y tymor yma byddwn yn edrych ar y newid sydd wedi bod i drafnidiaeth dros y blynyddoedd. Byddwn yn dysgu am y Chwildro Trafnidiaeth ym Mhrydain a rôl y brodyr Montgolfier wrth iddynt hedfan y balwn aer poeth cyntaf. Byddwn hefyd yn edrych ar bobl arwyddocaol eraill fel Amelia Earhart, Katherine Johnson a’r brodyr Wright. Y Celfyddydau Mynegiannol: Byddwn yn defnyddio offerynnau ac apiau fel GarageBand i greu alaw fer i’w defnyddio i hysbyseb gwyliau dychmygol. Byddwn yn creu animeiddiad o daith wrth ddefnyddio cerbydau, ac yn ymarfer ein sgiliau drama wrth chwarae rôl. Byddwn hefyd yn creu darn o gelf yn seiliedig ar y thema, ‘Cynefin’. Iechyd a Lles: Bydd y disgyblion yn derbyn gwersi nofio yng nghanolfan hamdden Rhuthun ar fore dydd Gwener. Byddwn yn parhau i edrych ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol wrth gynnal sgyrsiau gyda’n gilydd. Byddwn ni hefyd yn edrych ar sut mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain ar fuddiannau gydol oes. Gwaith Cartref: Bydd y plant yn derbyn gwaith cartref Mathemateg bob pythefnos ac yn yr wythnosau eraill bydd gofyn i’r plant gwblhau tasg gwaith thema. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar ddydd Gwener ac angen cael ei gwblhau erbyn wythnos i ddydd Gwener.
Ysgol Carreg Emlyn © 2023 Website designed and maintained by H G Web Designs