Blwyddyn 3 a 4
Croeso i Ddosbarth Blwyddyn 3 a 4. Ein hathrawes ddosbarth yw
Miss Elan Jones a byddwn yn canolbwyntio ar y thema ‘Teithio’ ar
hyd y tymor.
Dyma beth fyddwn yn ei astudio ym mhob maes dysgu a
phrofiad:
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Byddwn yn gwneud ein
gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg am bythefnos ac yna trwy
gyfrwng y Saesneg. Byddwn yn trafod, darllen ac yn dysgu sut i
ysgrifennu sgript, erthygl papur newydd, dyddiadur, penawdau,
agenda, cerdyn post a llawer mwy.
Byddwn hefyd yn darllen ac astudio ‘Twm Bach ar y Mimosa’ gan
Sian Lewis ac yn cynllunio llawer o’r tasgau ysgrifenedig o
amgylch gynnwys y nofel. Yn ogystal, fe fyddwn yn cael gwersi
‘Read, Write, Ink’ bob bore, er mwyn ymarfer a datblygu sgiliau
sillafu Saesneg y dysgwyr.
Mathemateg a Rhifedd: Y prif unedau y byddwn yn eu hastudio
dros yr hanner tymor gyntaf fydd ffracsiynau, swyddogaethau a
graffiau, amser, hyd, adeiledd, gwaith data, amcangyfrif a
gwirio, ymresymu rhifyddol, datblygu sgiliau mathemateg pen a
byddwn yna’n symud ymlaen I ddatblygu sgiliau gwahanol dros
weddill y tymor .
Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Yn ystod y tymor byddwn yn
canolbwyntio ar brosiectau STEM sy’n annog meddylfryd arloesol
drwy astudio mecanneg car, adeiladu pont gryf gan ddefnyddio
spaghetti ac archwilio a phrofi deunyddiau sy’n gallu gwrthsefyll
dwr. Byddwn hefyd yn parhau gydag ein prosiect ‘Bylbiau’r
Gwanwyn’ ble fyddwn yn nodi tyfiant ac amodau tyfu y bylbiau.
Y Dyniaethau: Byddwn yn astudio hanes sefydlu’r wladfa ym
Mhatagonia, datblygiad trafnidiaeth ar hyd y blynyddoedd,
cymharu tirwedd a thraddodiadau Cymru a Phatagonia ac yn
canolbwyntio ar stori Mary Jones yn teithio i nol ei Beibl.
Iechyd a Lles: Byddwn yn cynnal ein gwersi ymarfer corff bob
bore Gwener drwy fynd am wersi nofio. Yn ychwanegol, bydd y
dysgwyr hefyd yn cael cyfle i redeg y ‘filltir fawr’ dwywaith yr
wythnos er mwyn gwella eu iechyd corfforol a meddyliol.
Yn ogystal â chadw’r corff yn iach, byddwn hefyd yn pwysleisio
pwysigrwydd cadw’r meddwl yn iach. Byddwn yn trafod pynciau
megis bwlio, perthnasoedd cadarnhaol a diogelwch y wê. Wrth
wraidd ein gwersi iechyd a lles, byddwn hefyd yn deall
cydberthynas gweithgarwch corfforol a meddwl iach.
Celfyddyd Mynegiannol: Byddwn yn gwneud amrywiaeth o waith
celf gan ganolbywntio’n bennaf ar y thema ‘cynefin’. Rydym
hefyd yn lwcus iawn o gael mynediad i sesiynau gweithdy
cerddoriaeth er mwyn datblygu sgiliau cerddoriaeth y dysgwyr yn
llawn. Fe fydd sgiliau drama yn llifo yn naturiol o fewn y
dosbarth gan i'r dysgwyr wneud llawer o waith llafar a
pherfformio fel rhan o’u gwaith.
Cymhwysedd Digidol: Mae cymhwysedd digidol yn sgil bwerus i'w
ddatblygu ar gyfer y dyfodol felly byddaf yn sicrhau fod y
dysgwyr yn cael cyfleoedd i ymchwilio yn annibynnol a datblygu’r
sgiliau sylfaenol o fewn y gwersi. Byddwn yn gwneud llawer o ein
gwaith ar Google Classroom er mwyn ymgyfarwyddo â’r sgiliau
yma.
Gwaith cartref: Bydd y plant yn derbyn gwaith cartref
mathemateg bob pythefnos ac yn yr wythnosau eraill, bydd gofyn
i'r plant gwblhau tasg gwaith thema. Bydd y gwaith cartref yn
cael ei osod ar Ddydd Gwener a gofynnir iddo gael ei gwblhau
erbyn y Dydd Gwener sydd i ddilyn.
Edrychwn ymlaen at gael tymor prysur a hwyliog gyda’r plant a
diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Ysgol Carreg Emlyn © 2023 Website designed and maintained by H G Web Designs