Blwyddyn 1 a 2
Croeso mawr i Ddosbarth Blwyddyn 1 a 2,
i’r plant ac i’r rhieni.
Yr athrawes ddosbarth yw Miss Hughes
gyda Miss Elen Jones yn cynorthwyo. Bydd
plant y Dosbarth Derbyn yn ymuno â’r
dosbarth ar brynhawniau Iau a Gwener.
Bydd Miss Einir Jones yn dysgu’r dosbarth
ar brynhawn Iau.
Byddwn yn cael ‘ymarfer corff’ ar
brynhawn Mercher. Bydd angen gwisg
briodol a gall eich plentyn gadw’r dillad
addysg gorfforol yn yr ysgol. Bydd y wisg
yn cael ei gyrru adref bob hanner tymor i
chi gael cyfle i’w golchi. Yna, bydd angen
dychwelyd y wisg i’r ysgol ar ddechrau pob
hanner tymor.
Bydd llyfrau darllen yn cael eu newid ar
ddydd Gwener a dylai’r plant ddod a’u
bagiau darllen i’r ysgol bob diwrnod. Mae’n
bwysig iawn eich bod yn darllen gyda’ch
plentyn bob diwrnod. Mae rhwydd hynt
ichi ddarllen llyfrau ychwanegol gyda’ch
plentyn- llyfrau o’r llyfrgell neu lyfrau
sydd gennych chi adref a gwerthfawrogwn
eich sylwadau yn y ‘record darllen’. Mae
croeso ichi gofnodi unrhyw lyfrau
ychwanegol y byddwch yn eu darllen yn y
‘record darllen.’
Ein thema am y tymor fydd ‘Dewch i
Deithio’ a byddwn yn selio rhan o’r gwaith
ar y llyfr ‘Dyddiadur Kabo’-Olive Dyer a
Val Scurlock (Gomer ISBN 1-84323-026-
7)
Byddwn yn dilyn rhai o syniadau’r plant ac
mae croeso ichi drafod y thema adref
gyda’ch plentyn a chynnig syniadau.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
sgript, erthygl papur newydd, dyddiadur,
cerdyn post, llythyr, adroddiad, nodiadau,
hysbyseb
Mathemateg a Rhifedd
adio a thynnu lluosi a rhannu
Amser – o’r gloch, hanner awr wedi,
(Blwyddyn 2 - chwarter wedi a chwarter i,
cloc digidol), dyddiau’r wythnos, misoedd y
flwyddyn, y tymhorau.
Siapau – siapau 2D a 3D – adnabod
nodweddion e.e. pa sawl ochr, cornel,
wyneb, ongl sgwâr.
Bondiau rhif 10 - e.e. 9+1, 8+2 (
Blwyddyn 2 i ddeall wedyn fod
19+1=20, 18+2=20, 90+10=100,
80+20=100, 900+100=1000,
800+20=1000 ayb
Hyd- defnyddio pren mesur i fesur c.m. a
deall fod angen ffon fetr i fesur pellteroedd
mwy
Mas- Trwm, ysgafn, cydbwyso, (B.2.
pwyso gyda gram a Kilogram)
Ffracsiynau- hanner a chwarter, haner a
chwarter siâp a hanner a chwarter rhifau.
Fframwaith Digidol
Yn y gwaith TGaCh byddwn yn parhau i
gael y plant mor annibynnol â phosibl wrth
ddefnyddio’r cyfrifiaduron gan eu hannog i
fewngofnodi ac allgofnodi yn annibynnol
wrth ddefnyddio Hwb a Seesaw. Celf yr
Urdd, animeiddio syml a defnyddio
rhaglen ddosbarthu ‘Cangen’ ar Hwb. Creu
llyfr digidol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ymchwilio i wahanol anifeiliaid a
chynefinoedd. Adnabod planhigion
amrywiol mewn gwahanol gynefinoedd.
Deunyddiau magnetig ac anfagnetig.
Iechyd a Lles
Byddwn yn gwneud gweithgareddau ‘Saib a
Symud’, sef sgiliau ioga cynnar. Byddwn
yn ‘rhedeg milltir mawr ‘ ddwywaith yr
wythnos ac yn parhau gyda gwersi
gymnasteg a sgiliau pêl a gemau tîm syml
yn ein gwersi addysg gorfforol.
Trafod ein teimladau, y cynnwrf pan yn
mynd ar daith ac yna’r teimladau o ddod
adref i’n cartref. Trafod cartref fel man
arbennig a diogel, oes gan y plant fan
arbennig sy’n gwneud iddynt deimlo’n
ddiogel. Beth mae’r plant yn ei hoffi/ddim
yn hoffi. Oes ganddynt unrhyw degan neu
wrthrych arbennig.
Dyniaethau
Hanes Santes Dwynwen a dysgu am Ynys
Llanddwyn.
Adnabod nodweddion naturiol a dynol yn yr
amgylchedd. Cymharu ardal eu hunain
gyda Botswana a Llanddwyn. Hanes a
dathliadau Dydd Gwyl Dewi. Stori ac
arferion y Pasg.
Celfyddydau Mynegiannol
Dilyn syniadau ‘First Experience in Music.’
Celf yr Urdd. Gwrando ac ymateb i
gerddoriaeth Affricanaidd.
Edrychwn ymlaen at gael tymor prysur a
hwyliog gyda’r plant a diolch yn fawr am
eich cefnogaeth.
Ysgol Carreg Emlyn © 2023 Website designed and maintained by H G Web Designs